send link to app

Ap Geiriaduron


4.6 ( 6336 ratings )
Riferimento Istruzione
Sviluppatore Prifysgol Bangor University
Libero

Mae’r Ap Geiriaduron yn cynnwys y geiriadur cyffredinol Cysgair, a hefyd y geiriaduron termau safonol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru, Y Termiadur Addysg. ac ar gyfer prifysgolion Cymru, Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r geiriaduron hyn i gyd yn rhai Saesneg-Cymraeg/Cymraeg Saesneg all-lein lle nad oes arnoch angen cyswllt gwe i’w defnyddio.

Nodweddion:

Chwilio’n sydyn mewn amser real
Geiriadur all-lein er mwyn chwilio ar unrhyw adeg
Ap cyffredinol ar gyfer iPad a’r iPhone
Graffigau ar gyfer Retina Display
Iaith y sgrin ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda modd i newid yr iaith
Gallu dad-dreiglo a dad-redeg berfau i ddangos ffurf wreiddiol i eiriau
Nodwedd manylu er mwyn cael gwybodaeth fwy manwl ar unrhyw air
Chwilio gyda nodau chwilio; e.e. ei ddefnyddio fel odliadur drwy chwilio am ‘*aith’ er mwyn dangos geiriau sydd yn gorffen gyda ‘aith’
Cynnwys geiriadur Cysgair, sy’n eiriadur disgrifadol hwylus
Cynnwys geiriadur Y Termiadur Addysg sydd i’w weld ar-lein ar termiaduraddysg.org; wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel geiriadur o dermau safonol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru
Cynnwys Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; sy’n cynnwys diffiniadau, lluniau a diagramau, ac a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel geiriadur o dermau safonol ar gyfer addysg uwch cyfrwng Cymraeg
Porth i chwilio’n bellach ar-lein gyda’r Porth Termau ar termau.cymru
Diweddariadau awtomatig er mwyn ychwanegu termau a geiriau newydd wrth i’r geiriaduron sydd ynddo dyfu

Mae’r Ap Geiriaduron yn ap Prifysgol Bangor. Rhan-ariannwyd y fersiwn gwreiddiol gan gynllun Go Wales. Derbyniwyd grant bychan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn addasu’r ap i dderbyn eu geiriadur hwy.

Datblygwyr:
Patrick Robertson, David Chan, Dewi Bryn Jones.

Golygyddion / Terminolegwyr:
Gruffudd Prys, Tegau Andrews, Delyth Prys.

******************

The Ap Geiriaduron contains the Cysgair general dictionary, as well as the standardised terminology dictionaries for schools and further education colleges in Wales, Y Termiadur Addysg, and for Universities in Wales, Geiradur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. All these dictionaries provide English-Welsh/Welsh-English entries and can be used offline in case you do not have an internet connection.

Features:

Realtime, responsive and adaptive searching
Offline dictionary for anytime searches
Universal Application (iPad and iPhone) with Retina Display Graphics
English and Welsh user interface languages, with the ability to change the language in Settings
Demutate and deconjugate Welsh words to show their original form.
‘Drill down’ feature to find more detailed information on specific words
Wildcard Welsh searches; e.g. use it as a rhyming dictionary by searching for ‘*aith’ to find all words ending in ‘with’
Contains the Cysgair Dictionary, an easy to use descriptive dictionary with over 25,000 Welsh and 25,000 English words
Contains ‘Y Termiadur Addysg‘ dictionary; funded by the Welsh Government as the dictionary of standardised terminology for schools and further education
Contains the Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg; containing definitions, images and diagrams; funded by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol as the dictionary of standardised terminology for Welsh-medium higher education
Provides a gateway to the National Terminology Portal at termau.cymru for expanded searches
Automatic updating of dictionaries as new words, terms and dictionaries are added
The Ap Geiriaduron is a Bangor University application, part-funded by a Go Wales graduate scheme. Further versions were funded by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol’s small grants scheme so as to adapt for including their dictionaries.

Developers:
Patrick Robertson, David Chan, Dewi Bryn Jones.

Editors / Terminologists:
Gruffudd Prys, Tegau Andrews, Delyth Prys